Beth yw tiwberciwlosis?
Haint sy'n cael ei achosi gan germ o'r enw Mycobacterium tuberculosis yw tiwberciwlosis (sy'n cael ei alw'n TB yn aml). Fel arfer, bydd yn effeithio ar yr ysgyfaint, ac yn cael ei ledu gan bobl eraill.
Fel arfer bydd system imiwnedd y corff yn dinistrio'r germau cyn gynted ag y maen nhw'n cael eu hanadlu i mewn, ond fe allant achosi salwch ymhen rhai wythnosau neu hyd yn oed rai misoedd yn ddiweddarach.
Weithiau ni fydd TB yn achosi unrhyw salwch yn syth, ond bydd yn aros yn anweithredol yn y corff cyn datblygu rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Mae hyn yn fwy tebygol os yw'r corff yn wan oherwydd problemau meddygol eraill.Y bobl sydd mewn perygl mwyaf o'i gael yw'r rhai hynny â systemau imiwnedd a niweidiwyd.
Bydd pobl ifanc o blith grwpiau risg uchel, y mae eu rhieni wedi cael eu geni dramor, yn cael cynnig brechiad yn erbyn TB, sef y BCG. Nid yw'r brechiad BCG yn amddiffyn rhywun yn llwyr rhag cael TB, ond mae'n helpu amddiffyniadau'rcorff i'w ymladd. Bydd y brechiad yn para am 15 mlynedd o leiaf a dim ond unwaith y gallwch ei gael.
[TOP]
Beth yw'r symptomau?
Gall TB effeithio ar unrhyw ran o'r corff, ond bydd yn effeithio ar yr ysgyfaint neu'r chwarennau lymff fel arfer. Y symptom mwyaf cyffredin yw peswch, yn ogystal â sbwtwm (fflem) weithiau all gynnwys gwaed. Efallai hefyd y bydd poen yn y frest, colli pwysau a cholli awch bwyd, a thwymyn â chwysu, yn arbennig yn y nos.
Pan fo TB yn effeithio ar y chwarennau lymff, efallai y bydd y rhain yn ymddangos fel lympiau ar y gwddf. Fel arfer bydd diagnosis o TB yn cael ei wneud ar ôl cymryd pelydr X o'r frest ac archwilio sampl o fflem.
[TOP]
Alla'i heintio pobl eraill?
Gallwch basio TB ymlaen i eraill os oes gennych lawer o germau TB yn eich fflem. Weithiau bydd meddygon yn galw hyn yn 'TB agored' neu byddant yn dweud eich bod yn 'sbwtwm positif'. Gallwch helpu i atal yr haint rhag cael ei ledu drwy orchuddio'ch ceg pan fyddwch yn pesychu ac yna olchi eich dwylo. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared yn ofalus ar unrhyw hancesi papur y byddwch yn eu defnyddio.
Byddwch yn rhoi'r gorau i fod yn heintus yn fuan iawn ar ôl dechrau ar y driniaeth, ac ymhen bythefnos does dim risg i bobl eraill.
Does dim risg o heintio pobl eraill pan nad oes modd gweld germau TB yn y sbwtwm, neu pan fo TB yn effeithio ar y chwarennau lymff neu rannau eraill o'r corff.
Bydd pobl sy'n byw yn yr un tŷ â chi, a chydweithwyr mewn rhai achosion, yn cael cynnig archwiliad, ond anaml iawn y canfyddir eu bod yn wael â TB. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n cael archwiliad yn cael pelydr X o'r frest a bydd plant a rhai yn eu harddegau cynnar yn cael prawf syml ar y croen.
Os yw'r prawf yn negyddol, dydyn nhw ddim wedi cael eu heintio a byddant yn cael cynnig brechiad BCG. Os yw'r prawf yn bositif, mae'n golygu naill ai eu bod wedi cael BCG yn y gorffennol neu eu bod wedi cael eu heintio â TB ar ryw adeg.
[TOP]
Triniaeth
Yn aml iawn ni fydd angen unrhyw driniaeth, ond bydd yr unigolyn yn parhau i gael archwiliadau.
Weithiau, bydd cwrs symlach o feddyginiaeth yn erbyn TB yn cael ei roi i bobl sy'n ymddangos yn gwbl iach ond sydd â risg cynyddol o fynd yn wael â TB yn y dyfodol.
Mae modd gwella TB yn gyfan gwbl trwy ei drin â chwrs o dabledi. Mae'n rhaid cymryd y tabledi bod un diwrnod, neu dair gwaith yr wythnos, am rhwng chwech a naw mis.
Bydd llawer o bobl yn cael eu triniaeth i gyd gartref, ond efallai y bydd eraill yn mynd i mewn i'r ysbyty am tua'r wythnos gyntaf. Mae hyn yn fwy tebygol os ydyn nhw'n wael iawn pan fônt yn cael diagnosis neu os yw'n debygol eu bod yn heintus iawn i bobl eraill.
Pan fo rhywun yn cael ei drin adref am TB does dim angen cymryd camau arbennig, fel cael llestri a chyllyll a ffyrc ar wahân.
Does dim angen diet arbennig ond bydd bwyta'n dda yn gymorth i wella. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn darganfod fod eu hawch bwyd yn gwella unwaith y maen nhw'n dechrau cymryd eu tabledi.
[TOP]
Cofiwch
• Peidiwch byth â methu cymryd eich tabledi. Os fyddwch chi'n anghofio eu cymryd yn y bore, cymrwch nhw'n ddiweddarach yn y dydd.
• Gwnewch yn siŵr nad yw'r tabledi'n darfod – ewch i gael cyflenwad newydd cyn iddynt orffen.
• Os ydych chi'n poeni am eich symptomau neu eich triniaeth, siaradwch â'ch meddyg/nyrs.
• Mae modd gwella TB yn gyfan gwbl ond dim ond os ydych chi'n cymryd eich tabledi'n rheolaidd ac yn cwblhau'r cwrs cyfan. Peidiwch â rhoi'r gorau iddi am eich bod yn teimlo'n well eto. Rhowch y gorau iddi dim ond pan fydd eich meddyg yn dweud ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny.Gall TB droi'n ymwrthol i'r driniaeth os fyddwch chi’n rhoi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth.
[TOP]
A oes unrhyw sgîl-effeithiau?
- Mae un o'r tabledi sy'n cael ei defnyddio'n aml i drin TB yn newid lliw'r wrin ac yn ei droi'n lliw oren-goch.
- Efallai hefyd y bydd lensys cyffwrdd meddal yn newid eu lliw'n barhaol.
- Fel arfer ni fydd tabledi sy'n cael eu defnyddio i drin TB yn achosi unrhyw broblemau, ond os byddwch yn datblygu clwyf melyn (lliw melyn o gwmpas y llygaid ac ar y croen), brech, teimlo'n chwydlyd, teimlo'n goslyd, yn ben ysgafn, yn cael trafferth gweld neu'n teimlo pinnau bach, cysylltwch â'ch meddyg ar unwaith. Os oes un o'r tabledi'n tarfu arnoch chi, mae modd newid eich triniaeth, ond does dim modd rhoi'r gorau iddi'n gyfan gwbl hyd nes y byddwch wedi gwella'n llwyr.
- Mae rhai tabledi sy'n cael eu defnyddio i drin TB yn cynnwys cyffur sy'n gwneud y bilsen atal cenhedlu'n llai effeithiol. Os ydych chi'n cymryd y bilsen, holwch eich meddyg am ddulliau eraill o atal cenhedlu tra rydych chi'n derbyn triniaeth am TB.
[TOP]
Dychwelyd i waith
Dylech drafod hyn â’r arbenigwr sy'n gofalu am eich triniaeth a chyda'ch Meddyg Teulu. Weithiau bydd y TB mor ysgafn fel nad yw'r unigolyn byth yn colli gwaith. Efallai y bydd angen i eraill aros gartref o'r gwaith hyd nes na fyddant yn heintus neu hyd nes y byddan nhw'n teimlo'n ddigon cryf i ddychwelyd i weithgarwch llawn.
Cyn belled â bod y tabledi'n cael eu cymryd yn rheolaidd, gallwch ddisgwyl gwella'n llwyr a dylai eich cyflogwyr gael gwybod hyn.
[TOP]
Am ba hyd y bydd y driniaeth yn para?
Bydd rhaid i chi ymweld â chlinig yr ysbyty hyd nes y bydd eich triniaeth wedi dod i ben ac efallai rhyw gymaint yn fwy na hynny. Bydd hyn yn cymryd rhwng chwech a naw mis. Bydd y rhan fwyaf o bobl ond yn mynychu'r clinig unwaith bob tair i bedair wythnos ar y dechrau, ac yna'n llai aml wedi hynny. Bydd rhai clinigau'n parhau i'ch gweld unwaith neu ddwy y flwyddyn am ddwy flynedd wedi i chi gwblhau'r driniaeth.
[TOP]
Taflenni TB a gyfieithwyd
Mae’r daflen wybodaeth am TB ar gael i’w lawrlwytho yn yr ieithoedd a restrir isod. Cliciwch ar yr iaith y dymunwch lawrlwytho’r daflen ynddi.
Adolygwyd y dudalen yn feddygol ddiwethaf: Medi ‘07