|

Sut mae'r ysgyfaint yn gweithio (the way your lungs work)

Mae eich ysgyfaint yn gorwedd y naill ochr a'r llall i'ch calon ac maen nhw'n llenwi tu mewn i'ch brest. Mewn oedolyn, mae pob ysgyfaint yn pwyso tua 1 pwys. Fodd bynnag, mae'r ysgyfant ar y dde ychydig yn fwy na'r un chwith am fod mwy o le iddo. Mae'n rhaid i'r ysgyfant chwith rannu ei le â'r galon.

Mae dwy haen denau o feinwe, sy'n cael eu galw'n pliwra, yn gorchuddio'r ysgyfaint. Mae'r haenau – neu'r pilenni hyn – yn llithro dros ei gilydd wrth i chi anadlu fel y gall yr ysgyfaint ymledu a chywasgu.

Mae'r ddau ysgyfant yn cynnwys llabedau – tair ar y dde a dwy ar y chwith. Mae tu mewn i'ch ysgyfaint yn edrych fel sbwng enfawr. Llwyth o diwbiau bychan ydyw, a'r lleiaf o'r rhain â chodenni aer bychan ar eu pen a elwir yn alfeoli. Mae tua 300 miliwn o'r alfeoli hyn a phe baent yn cael eu taenu byddent yn gorchuddio darn o dir tua'r un maint yn fras â chwrt tenis.

Mae gan yr alfeoli hyn waliau tenau iawn. Yn gris-groes ar draws y rhain mae pibellau gwaed mân, mân o'r enw capilarïau.

Mae'r ysgyfaint yn cael eu gwarchod gan y cawell asennau. Rhwng yr asennau mae cyhyrau sy'n hanfodol ar gyfer anadlu. O dan yr ysgyfaint mae cyhyr mewn siâp cromen, sef y diaffram. Mae'r diaffram yn gwahanu'r frest oddi wrth yr abdomen ac mae hwn hefyd yn ymwneud ag anadlu.

Pam ydych chi'n anadlu?

Mae pob rhan o'ch corff angen ocsigen o'r aer i oroesi. Mae'n cael ei gludo o gwmpas y corff gan gelloedd gwaed coch yn llif y gwaed. Gan na all ocsigen fynd i mewn i'r gwaed yn uniongyrchol, drwy'r croen, mae system gymhleth yn yr ysgyfaint sy'n ei amsugno o'r aer ac yn ei drosglwyddo i mewn i lif y gwaed.

Beth sy'n gwneud i chi anadlu?

Cyn cael ei eni mae babi'n dibynnu ar waed ei fam i gael ocsigen ac y mae ei ysgyfaint wedi eu llenwi â hylif. Ond o'r eiliad y mae'n cael ei eni mae'n rhaid iddo dynnu aer i mewn i'w ysgyfaint a chael ei ocsigen ei hun.

Mae'r canolbwynt anadlu yn yr ymennydd yn derbyn negeseuon gydol yr amser gan y corff am faint o ocsigen sydd ei angen. Mae hyn yn dibynnu pa mor fywiog ydych chi. Er enghraifft, pan fyddwch chi'n cysgu byddwch angen llawer llai o ocsigen na phe byddech chi'n rhedeg i ddal bws. Felly byddwch yn anadlu'n arafach.

Cyn gynted ag y mae'n gwybod faint o ocsigen sydd ei angen, mae'r ymennydd yn anfon negeseuon ar hyd y nerfau i'r cyhyrau anadlu, fel bod y swm cywir o aer yn cael ei anadlu i mewn i'r ysgyfaint.

Pan fo'r nerfau i'ch cyhyrau anadlu yn dweud wrthych chi am anadlu i mewn, mae eich diaffram yn cael ei dynnu'n wastad. Ar yr un pryd, mae'r cyhyrau rhwng eich asennau'n byrhau ac yn tynnu cawell eich asennau i fyny ac allan. Mae hyn yn gwneud yn siŵr fod gan eich ysgyfaint y lle mwyaf posibl i ymestyn iddo ac y mae'n tynnu aer i mewn iddynt.

Sut ydych chi'n anadlu?

Bob tro rydych chi'n anadlu, mae aer yn cael ei dynnu i mewn i'ch trwyn neu'ch ceg, i lawr drwy eich gwddf ac i mewn i'ch pibell wynt (tracea). Tiwb tua phedair i bum modfedd o hyd yw'r bibell wynt hon mewn oedolion ac mae'n rhannu'n ddwy, yn ddau diwb aer llai sy'n cael eu galw'n bronci, un ohonynt yn mynd i mewn i'r ysgyfant chwith a'r llall i'r ysgyfant dde.

Mae'r aer yn mynd i lawr y bronci sy'n rhannu eto tua 15 i 25 o weithiau yn filoedd o lwybrau aer llai, sy'n cael eu galw'n bronciolynnau, nes bod yr aer yn cyrraedd yr alfeoli (codennau cyfnewid nwyon – gweler y diagram isod.)

Fel arfer mae anadlu allan yn golygu ymlacio'r diaffram a'r cyhyrau rhwng yr asennau. Mae hyn yn gwthio'r aer allan a bydd yr ysgyfaint yn dychwelyd i'w maint pan fônt yn gorffwys.

Sut y mae ocsigen yn mynd i mewn i lif y gwaed?

Oddi mewn i'r alfeoli, mae ocsigen yn symud ar draws waliau tenau fel papur i'r capilarïau (gwythiennau bychain) ac i mewn i'r gwaed. Yna mae'n cael ei gludo gan gemegau (haemoglobin) yn y celloedd gwaed coch sy'n ei gario o gwmpas y corff. Ar yr un pryd, mae cynhyrchion gwastraff o'r corff ar ffurf carbon deuocsid, yn dod allan o'r capilarïau i mewn yn ôl i'r alfeoli, yn barod i'w hanadlu allan.

Mae gwaed ocsigenedig o'r newydd yn cael ei gario o'r ysgyfaint i ochr chwith y galon sy'n pwmpio gwaed o gwmpas y corff drwy'r rhydwelïau. Unwaith y mae'r ocsigen wedi'i ddefnyddio, mae'r gwaed yn dychwelyd, drwy'r gwythiennau, i ochr dde'r galon. O'r fan honno mae'n cael ei bwmpio i'r ysgyfaint fel y gellir cael gwared ar y carbon deuocsid a chymryd mwy o ocsigen i fyny.

Beth arall y mae'r ysgyfaint yn ei wneud?

Mae 10,000 litr o aer yn symud i mewn ac allan o'r ysgyfaint bob dydd. Mae pob anadliad o aer yn cludo germau a chorffynnau estron eraill yn ogystal ag ocsigen. O ganlyniad mae'r ysgyfaint yn darparu system amddiffyn ffisegol a chemegol gymhleth i atal deunyddiau diangen rhag mynd i mewn i'r corff.

Mae leinin o flew mân yn y bronci sy'n helpu i chwythu deunyddiau diangen i fyny i'r geg. Mae mwcws sy'n cael ei gynhyrchu ym muriau'r llwybrau anadlu'n helpu i'w cadw'n lân ac wedi eu hiro'n dda. Mae celloedd yn yr ysgyfaint yn cynnwys ensymau sy'n cynhyrchu newidiadau cemegol yn y gwaed.

Mae strwythur bregus yr ysgyfaint wedi'i addasu'n wych i gynnal y broses gymhleth o anadlu ac, ar yr un pryd, mae'n helpu i warchod y corff rhag ymosodiad oddi allan.

Fodd bynnag, gall mwg sigaréts, llygredd aer (e.e. o geir) a nwyon a llwch galwedigaethol niweidio'r ysgyfaint. Os yw'r ysgyfaint yn cael eu niweidio, gall hyn arwain at fod yn fyr eich gwynt.

Mae eich ysgyfaint yn fregus iawn; cofiwch ofalu amdanynt yn dda.

Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Tachwedd 2007