Skip navigation |
Home
[Viewing Options]

Niwmonia (pneumonia)

Beth yw niwmonia?

Haint yw niwmonia sy'n gwneud i'r codenni aer yn yr ysgyfaint (yr alfeoli), a'r llwybrau bronciaidd llai fynd yn llidus a llenwi â hylif. Yna mae celloedd gwaed gwyn arbennig yn teithio i'r ysgyfaint i wrthsefyll yr haint. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i'r ysgyfaint wneud eu gwaith: i gael ocsigen o'r aer i mewn i lif y gwaed ac yna o gwmpas y corff i gyd.

[TOP]

Beth sy'n achosi niwmonia?

Gall llawer o wahanol germau achosi'r haint sy'n arwain at niwmonia. Er bod rhai yn gyffredin ac yn hawdd eu hadnabod, ni fydd y germ sy'n achosi'r broblem yn cael ei ddarganfod byth mewn cryn nifer o bobl sydd â niwmonia.

[TOP]

O b'le daw'r haint?

Mae rhai germau, firysau'n arbennig, yn cael eu hanadlu i mewn i'r ysgyfaint am eu bod yn bresennol yn yr aer, yn enwedig os yw rhywun gerllaw â haint ac yn pesychu neu'n tisian.Mae eraill, gan gynnwys rhai bacteria, yn byw yn y corn gwddf eisoes. Fel arfer dydyn nhw ddim yn peri niwed ond fe allan nhw fynd i mewn i'r ysgyfaint os ydych chi ‘dan y don' neu'n wan oherwydd firws. Gall rhai o'r mathau mwyaf prin o niwmonia ddeillio o ffynonellau anghyffredin. Mae'r germau sy'n achosi clefyd y Llengfilwyr yn cael eu canfod weithiau mewn systemau tymheru awyr diffygiol neu gawodydd dŵr.

A gallwch gael y germ sy'n achosi clefyd y parotiaid o barotiaid gwael.

[TOP]

Pwy sy'n cael niwmonia a pha mor gyffredin ydyw?

Gall unrhyw un gael niwmonia – hyd yn oed y rhai ifanc a heini. Fodd bynnag, mae'n fwy cyffredin (ac yn fwy difrifol fel arfer) mewn plant ifanc iawn, ymhlith y rhai oedrannus iawn, pobl sy'n ysmygu ac unrhyw un sy'n wan oherwydd salwch tymor hir – yn arbennig os yw'r salwch yn tarfu ar ddulliau arferol y corff o wrthsefyll haint.

[TOP]

Niwmonia mewn plant

Firysau yw'r achos mwyaf cyffredin o niwmonia mewn plant, yn arbennig yn ystod y blynyddoedd cyn ysgol. Fel arfer bydd yn sefydlogi ymhen ychydig ddyddiau. Nid yw gwrthfiotigau o gymorth. Gall germau bacteriol achosi niwmonia hefyd ac weithiau mae'n anodd penderfynu ai firws neu facteria sy'n achosi'r broblem. Os oes unrhyw ansicrwydd, bydd y meddyg yn rhoi gwrthfiotigau i chi fel arfer.

Weithiau, bydd plant â niwmonia yn mynd yn wael iawn a bydd angen eu hanfon i'r ysbyty. Yn aml, byddant yn cael ocsigen i'w helpu i anadlu.

[TOP]

Symptomau

Fel arfer bydd pobl â niwmonia'n teimlo'n wael, â thwymyn a fyddan nhw ddim awydd bwyd. Mae'r symptomau hyn yn debyg i ffliw, ond bydd gan bobl â niwmonia beswch (yn aml â sbwtwm gludiog) bob amser bron, ac efallai y byddant yn fyr eu gwynt â theimlad tynn yn eu brest. Mae'n syniad da cysylltu â'ch Meddyg Teulu pan fo hyn yn digwydd.

Weithiau gallwch deimlo pigyn yn eich ochr, sy'n waeth pan fyddwch yn anadlu. Gall hyn ddigwydd os yw'r haint yn leinin yr ysgyfaint hefyd. Yr enw ar yr anhwylder hwn yw pliwrisi. Os ydych chi'n teimlo poen o'r fath, fe ddylech chi fynd i weld eich meddyg yn bendant.

[TOP]

Triniaeth

Gwrthfiotigau yw'r brif driniaeth. Mae'n bwysig yfed llawer ac weithiau efallai y byddwch angen cyffuriau lleddfu poen. Os ydych chi'n ysmygu, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi'r gorau iddi.

Bydd y rhan fwyaf o bobl â niwmonia'n cael eu trin gartref gan eu Meddyg Teulu. Mae tuag un o bob deg yn ddigon gwael i fynd i'r ysbyty am ofal mwy arbenigol.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr ond, er y gall y dwymyn wella'n gyflym, gall teimlad o flinder a syrthni bara am hyd at chwe wythnos.

Mae gorffwys yn rhan bwysig o wella'n llwyr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando ar eich corff - peidiwch â rhuthro'r broses wellhad.

Yn anffodus, mae rhai pobl yn dal i farw oherwydd niwmonia, ac mae ymchwil yn canolbwyntio ar y grŵp hwn o unigolion i weld beth ellir ei wneud i wella pethau yn y dyfodol.

[TOP]

Allwn ni wneud unrhyw beth i atal niwmonia?

Peidio ag ysmygu yw'r peth pwysicaf. Mae pobl sy'n ysmygu mewn mwy o berygl o gael niwmonia. Mae niwmonia a phob haint ar y frest mewn plant yn fwy cyffredin pan fo rhieni'n ysmygu. I unrhyw un sydd â phroblemau â'r ysgyfaint ers tro mae'n syniad da cael pigiad ffliw ar ddechrau'r gaeaf.

Weithiau gall ffliw arwain at niwmonia, yn arbennig ymhlith y rhai oedrannus a'r rhai sy'n wael. Mae brechiad ar gael hefyd i warchod rhag yr achos mwyaf cyffredin o niwmonia, sef niwmonia niwmococol. Rydym yn argymell y brechiad hwn ar gyfer unrhyw un sydd â phroblemau â'r ysgyfaint neu'r galon a dim ond unwaith y bydd y rhan fwyaf o bobl ei angen.

[TOP]

Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf : Medi 2007

Related Links