Skip navigation |
Home
[Viewing Options]

Llygredd aer a'ch ysgyfaint (air pollution and your lungs)

Mae'r aer rydym yn ei anadlu'n gallu bod yn niweidiol i'n hysgyfaint. Mae'r daflen hon yn edrych ar rai o beryglon llygredd aer, ac yn rhoi ambell awgrym am sut y gallwch helpu i fynd i'r afael â'r broblem.

A yw llygredd aer yn broblem?

Mae gan bawb hawl i aer glân. Er gwaethaf hyn, mae miliynau o dunelli o nwyon a gronynnau niweidiol yn cael eu rhyddhau i'r aer bob blwyddyn. Mae rhywfaint o'r llygredd hwn yn cyrraedd ein hysgyfaint â phob anadl a gymerwn ni.

Y mwg du sy'n dod allan o nifer o beiriannau disel yw un math amlwg o lygredd aer. Dydyn ni ddim yn gallu gweld llawer o fathau eraill o lygredd ond maen nhw'r un mor niweidiol i'n hiechyd.

Deugain mlynedd yn ôl, llosgi glo oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o lygredd yn ein dinasoedd. Bu mwrllwch (smog) enwog Llundain yn 1952 yn gyfrifol am 4,000 o farwolaethau ychwanegol cyn pryd. Heddiw, diolch i danwydd di-fwg a chyrn simnai talach, a llai o allyriadau diwydiannol, mae ein dinasoedd yn gymharol ddi-fwg.

Nid yw hynny'n golygu fod llygredd aer wedi diflannu. Mae gorsafoedd pŵer, ffatrïoedd, swyddfeydd a hyd yn oed ein cartrefi, i gyd yn helpu i lygru'r aer yr ydym yn ei anadlu. Mae cerbydau modur yn creu swm sylweddol o lygredd aer, mewn trefi ac yn y wlad.

Mae un o bob pump o bobl mewn perygl arbennig o ddioddef o lygredd aer. Mae pobl sydd eisoes yn dioddef â chlefyd yr ysgyfaint, yr henoed a phlant, yn debygol o gael eu heffeithio'n fwy na neb gan lefelau uchel o lygryddion aer.

[TOP]

Pa lygryddion sy'n achosi'r problemau?

Mwg

Daw'r rhan fwyaf o fwg mewn dinasoedd o bibellau gwacau disel. Mewn rhai ardaloedd, gorsafoedd pŵer yn llosgi glo neu'n cynhyrchu trydan sy'n cynhyrchu cyfran sylweddol o'r holl fwg.

Bydd gronynnau mwg mawr yn cael eu dal yn y llwybrau anadlu uwch (o'r trwyn i'r laryncs), ond gall gronynnau llai (PM10s) dreiddio'n ddyfnach i mewn i'r ysgyfaint.

Bydd lefelau uchel o PM10s yn creu mwy o anawsterau anadlu mewn pobl sy'n dioddef o asthma, COPD ac anhwylderau eraill ar yr ysgyfaint. Gallant hefyd achosi marwolaeth cyn pryd mewn pobl hŷn â chlefyd y galon a'r ysgyfaint. Oherwydd hyn, credir mai PM10s yw'r pwysicaf o'r llygryddion aer cyffredin.

[TOP]

Sylffwr deuocsid (SO2 )

Mae Sylffwr Deuocsid (SO2 ) yn cael ei gynhyrchu gan orsafoedd pŵer a pheiriannau disel. SO2 a mwg a gynhyrchwyd gan losgi glo oedd yn gyfrifol am y cyfraddau uchel o farwolaethau yn ystod y mwrllwch yn Llundain yn 1952. Er bod lefelau wedi gostwng, mae SO2 yn parhau i fod yn broblem iechyd posibl mewn rhai rhannau o Brydain. Mae'n effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf lle mae'n culhau'r llwybrau anadlu. Mae hyn yn golygu bod anadlu'n anodd, yn arbennig i bobl ag asthma a phlant ifanc.

Nitrogen Deuocsid (NO2 )

Nitrogen Deuocsid (NO2 ) yw un o'r cemegau sy'n cael ei gynhyrchu pan fo tanwydd yn cael ei losgi mewn gorsafoedd pŵer a cheir.Mae NO2 yn gwneud leinin y llwybrau anadlu'n llidus. Ynghyd â llygryddion eraill, gall y lefelau NO2 sydd i'w cael ger ffyrdd prysur effeithio'n ddrwg ar rai pobl sy'n dioddef o asthma.

[TOP]

Oson (O3 )

Oson (O3 ) yw prif gynhwysydd mwrllwch cyfoes. Ym Mhrydain bydd lefelau oson ar eu huchaf yn ystod hafau poeth. Mae oson yn gwneud yr ysgyfaint yn llidus, gan achosi pesychu a phoen yn y frest. Bydd hefyd yn llosgi'r llygaid, y trwyn a'r corn gwddf. Mae pobl sydd â chlefydau'r ysgyfaint mewn perygl arbennig, ond gall hyd at drydedd ran o bobl iach arferol ddatblygu symptomau pan font yn ymarfer yn yr awyr agored. Gall hyn arwain at gyfyngu ar eu perfformiad athletaidd.

Carbon Monocsid (CO

Mae Carbon Monocsid (CO) yn nwy diarogl, gwenwynig sy'n dod o bibellau gwacau trafnidiaeth yn bennaf. Mae'n atal y gwaed rhag cario ocsigen i'r ymennydd, y galon a meinweoedd eraill. Mae pobl â chlefyd y galon mewn perygl arbennig. Mae mwg sigaréts yn ffynhonnell sylweddol o garbon monocsid; mae gan ysmygwyr lefelau llawer uwch yn eu gwaed na'r rhai nad ydynt yn ysmygu.

[TOP]

Plwm

Mae plwm yn beth drwg o ran datblygiad arferol plant. Mae lefelau plwm yn gostwng ond mae plwm mewn petrolyn dal i gyfrif am 80 y cant o'r plwm yn yr aer.

Aer asid

Bydd aer asid yn digwydd yn ystod mwrllwch cyfoes pan fo NO2 ac SO2 yn cael eu troi'n asidau; asid nitrig a sylffwrig yn arbennig. Mae'r rhain yn ffurfio cymylau bychan o ddefnynnau asid. Yr 'aer asid' hwn sy'n disgyn fel glaw asid yn y pen draw, gan niweidio planhigion a choed. Gallwn anadlu gronynnau mân o asid i mewn. Bydd hyn yn peri llid yn y llwybrau anadlu, yn ogystal â phesychu a gwichian weithiau.

[TOP]

Sut alla'i warchod fy hun rhag llygredd aer?

Os ydych chi'n dod i gysylltiad â llygredd trefol am unrhyw gyfnod o amser dylech ystyried gwarchod eich ysgyfaint â masg. Mae masgiau da yn cadw gronynnau mawr rhag mynd trwodd. Gall pobl sydd ag asthma ac eraill ag anawsterau anadlu ganfod fod hyn yn gwneud yr aer y maen nhw'n ei anadlu yn llai poenus. Mae masgiau hefyd yn dangos i yrwyr ceir pa mor boenus ydych chi am lygredd aer.

Yn y DU, mae cyngor ynghylch lefelau llygryddion aer ar gael ar www.airquality.co.uk. Lle bo lefelau llygryddion aer yn uchel, yn arbennig ar strydoedd dinas, dylech dreulio llai o amser yn yr awyr agored os yw hyn yn effeithio arnoch.

[TOP]

Beth alla'i ei wneud am lygredd aer?

Mae ceir yn brif ffynhonnell llygredd aer yn ein dinasoedd. Yn 2006 roedd 33.4 miliwn o gerbydau modur trwyddedig ym Mhrydain; gallai fod cyfanswm o 50 miliwn erbyn y flwyddyn 2025. Gallwch greu rhywfaint llai o lygredd os defnyddiwch chi betrol di-blwm a gyrru car â thrawsnewidydd catalytig. Os yw eich cerbyd yn defnyddio disel, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu disel eithriadol lân.

Neu yrru llai – defnyddiwch gludiant cyhoeddus pan allwch chi. Os yw'r gwasanaeth cludiant cyhoeddus yn wael yn eich ardal chi, ysgrifennwch at eich awdurdod lleol a dywedwch wrthynt pam eich bod yn ychwanegu at y llygredd aer.

Os ydym am reoli llygredd aer mae angen i ni fabwysiadu safonau ansawdd aer llym ar gyfer yr holl brif lygryddion. Ac mae angen i ni fonitro ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu. Holwch eich awdurdod lleol a ydynt yn mesur y llygryddion y cyfeirir atynt yn y daflen hon.

[TOP]

Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Ionawr ’08

Related Links