Beth yw ffliw?
Salwch byr yw ffliw (influenza), sy'n cael ei achosi gan firws. Gall effeithio ar bobl o bob oed, a byddwch yn cael twymyn sydyn, yn teimlo'n rhynllyd, â chur pen, a bydd eich cyhyrau'n boenus. Bydd pawb bron yn cael peswch sych ac yn aml iawn bydd ganddynt ddolur gwddw hefyd.
Mae ffliw yn llawer gwaeth nag annwyd. Weithiau bydd pobl yn meddwl neu'n dweud fod ganddynt ffliw, pan mai annwyd trwm sydd ganddynt mewn gwirionedd. Fel arfer bydd ffliw yn gwneud i chi deimlo'n eithaf sâl a gwan, ond fe ddylech chi wella ymhen dau i saith niwrnod. Fodd bynnag, gall fod yn fwy difrifol, yn arbennig i bobl sydd â phroblemau iechyd tymor hir a phobl hŷn.
Mae ffliw yn heintus iawn a bydd yn cael ei drosglwyddo o un person i'r llall, drwy disian, er enghraifft. Os byddwch yn cael ffliw, byddwch yn dechrau teimlo’n sâl rhwng un a phedwar diwrnod ar ôl dal y firws gan rywun arall.
[TOP]
Beth ddylwn ei wneud os byddaf yn cael y ffliw?
Os cewch chi'r ffliw, y cyfan sydd angen ei wneud yw cymryd camau syml. Gorffwyswch yn eich gwely ac yfwch ddigonedd o ddiod. Bwytwch gystal ag y gallwch (does dim gwirionedd yn yr hen ddywediad “feed a cold and starve a fever”).
Dylai meddyginiaethau ar gyfer annwyd sy'n cynnwys aspirin neu paracetamol leihau'r dwymyn a'r boen. Gallwch eu prynu yn eich fferyllfa, siop y gornel neu archfarchnad leol heb bresgripsiwn. Peidiwch â chymryd mwy na'r dos sy'n cael ei argymell, yn arbennig os ydych chi'n cymryd mwy nag un math o feddyginiaeth.
Gan mai firws sy'n achosi ffliw, does dim pwynt cymryd gwrthfiotigau i'w drin (dim ond yn erbyn bacteria y maen nhw'n gweithio).
Os ydych chi'n mwynhau iechyd da fel arfer, mae'n debyg na fydd angen i chi gysylltu â'ch Meddyg Teulu – disgwyliwch i weld a ydych yn dal i deimlo'n sâl ymhen ychydig ddyddiau, neu os nad yw eich peswch wedi gwella ar ôl wythnos.
Os oes gennych chi unrhyw un o'r problemau iechyd a restrwyd isod fel'anhwylderau sy'n peri risg', dylech ddweud wrth eich Meddyg Teulu ar unwaith os byddwch chi'n cael y ffliw. Efallai y bydd eich meddyg eisiau trefnu pelydr X ar y frest neu brofion neu driniaeth arall.
[TOP]
Peryglon eraill yn deillio o ffliw
Weithiau gall ffliw arwain at broblemau iechyd mwy difrifol. Gall hyn ddigwydd pan fo amddiffyniadau'r corff, yn arbennig y rhai hynny yn yr ysgyfaint, wedi cael eu gwanychu gan y firws ffliw. Yr un mwyaf cyffredin o'r rhain yw niwmonia.
Hefyd, os oes gennych chi haint ar yr ysgyfaint, fel asthma, broncitis cronig neu bronciectasis, gall dal ffliw beri ei fod yn ailgychwyn. Mae mwy o berygl i bobl hŷn gael y cymhlethdodau hyn.
Yn ystod gaeaf 1989-90 cafwyd epidemig ffliw difrifol yn y DU, a achosodd rhwng 20,000 a 30,000 o farwolaethau ychwanegol. Roedd tua hanner y marwolaethau hyn o ganlyniad i haint yr ysgyfaint; ymhlith yr achosion eraill roedd trawiadau ar y galon, strociau a chlefyd siwgr.
[TOP]
Beth yw brechlyn ffliw?
Mae'r brechlyn ffliw yn cael ei baratoi o fersiwn diniwed o'r firws ffliw, sy'n cael ei dyfu mewn wyau ieir.
Bydd y brechlyn yn cael ei roi drwy gyfrwng pigiad, yn y fraich uchaf fel arfer. Dim ond un pigiad y bydd oedolion ei angen, a bydd yn cymryd rhwng wythnos a 10 ddiwrnod i'ch amddiffyn rhag cael y ffliw. Gall plant gael eu brechu o chwe mis oed ymlaen. Hyd at dair ar ddeg mlwydd oed, byddant yn cael dau ddos o'r brechlyn, o fewn mis i'w gilydd.
Gan fod y tymor ffliw'n dechrau ym mis Tachwedd fel arfer, bydd meddygon teulu'n hoffi rhoi'r brechlyn rhwng Medi a Thachwedd.
[TOP]
Pwy ddylai gael eu brechu rhag y ffliw?
Rydym yn argymell yn gryf fod pobl o bob oed sydd ag unrhyw un o'r problemau a restrir isod, ac yn arbennig pobl hŷn â'r cyflyrau hyn, yn cael eu brechu rhag y ffliw. Y rheswm am hyn yw mai'r bobl yma yw'r rhai mwyaf tebygol o gael problemau mwy difrifol os fyddant yn cael y ffliw.
Rydym hefyd yn argymell fod pobl sy'n byw neu'n gweithio mewn cartrefi nyrsio a chyfleusterau aros tymor hir eraill yn cael eu brechu. Dylai gweithwyr gofal iechyd y GIG gael eu brechu hefyd.
[TOP]
Cyflyrau sy'n peri risg
• Heintiau'r ysgyfaint, gan gynnwys asthma, ffibrosis ysgyfeiniol (fibrosing alveolitis), ffibrosis systig, COPD (broncitis cronig a/neu emffysema) a bronciectasis
• Clefyd y galon
• Methiant yr arennau
• Clefyd siwgr ac anhwylderau hormonaidd eraill
• Amddiffyniadau imiwnedd diffygiol, all fod oherwydd haint neu driniaeth ar gyfer haint
Os ydych chi'n meddwl y gall y brechiad ffliw fod o gymorth i chi, trafodwch hyn gyda'ch Meddyg Teulu. Mae'r brechlyn ar gael gan y GIG
Nid ydym yn argymell imiwneiddio oedolion a phlant iach fel mater o drefn. I bobl sy'n gyffredinol iach, nid yw ffliw yn brofiad dymunol – ond dim ond salwch byr ydyw ac nid yw'n beryglus.
[TOP]
A yw'r brechlyn ffliw'n ddiogel?
I'r rhan fwyaf o bobl, mae'r brechlyn ffliw'n ddiogel iawn. Yn anaml iawn, fodd bynnag, gall rhai pobl gael adwaith alergaidd i'r protin ŵy sydd yn y brechlyn.
Os ydych chi'n gwybod fod gennych chi alergedd difrifol i wyau, ddylech chi ddim cael y brechlyn. Weithiau bydd y croen lle cawsoch chi'r pigiad yn boenus wedyn.
[TOP]
Ni all y brechlyn ffliw roi'r ffliw i chi
Pa mor effeithiol yw'r brechlyn ffliw?
Os ydych chi'n mwynhau iechyd da fel arfer, bydd y brechlyn yn lleihau eich siawns o gael y ffliw o ddwy ran o dair. Mewn pobl mwy gwantan mae'n debyg y bydd yr elfen amddiffyn yn llai, ond mae meddygon yn credu y bydd y ffliw yn llai difrifol os ydych chi wedi cael eich brechu.
Ddylwn i gael y brechlyn bob blwyddyn?
Dylech. Y brif broblem â chynhyrchu brechlyn ffliw gwirioneddol effeithiol yw bod y firws yn wahanol bob blwyddyn. Hyd yn oed os cawsoch eich brechu, dim ond am un gaeaf y byddwch chi'n cael eich amddiffyn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ceisio rhagweld pa rywogaeth o ffliw sy'n debygol o achosi'r ffliw bob blwyddyn. Bydd brechlyn newydd yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn ar sail y proffwydoliaethau hyn.
[TOP]
Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Awst ‘07