Clefyd yr ysgyfaint galwedigaethol
Nod y dudalen hon yw esbonio beth yw 'clefyd yr ysgyfaint galwedigaethol', rhestru'r triniaethau sydd ar gael i chi a chynnig arweiniad ynghylch iawndal a budd-daliadau y gallwch eu hawlio.
Beth yw clefyd yr ysgyfaint galwedigaethol?
"Clefyd yr ysgyfaint galwedigaethol' yw clefyd yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig â swydd rhywun. Mae'n glefyd sy'n cael ei achosi gan rywbeth y dewch i gysylltiad ag ef yn eich gwaith.
Mae'r term "clefyd yr ysgyfaint galwedigaethol" yn cynnwys grŵp o wahanol anhwylderau'r ysgyfaint. Mae pob anhwylder yn wahanol, ac yn effeithio ar eich ysgyfaint mewn modd gwahanol.
Bydd rhai clefydau'r ysgyfaint galwedigaethol yn effeithio ar y tiwbiau sy'n cario aer i mewn ac allan o'r ysgyfaint (ein 'llwybrau anadlu'). Mae asthma galwedigaethol yn enghraifft o'r math hwn o broblem.
Gall clefydau ysgyfaint galwedigaethol eraill effeithio ar y codennau aer bychan lle bydd yr ocsigen yn cael ei drosglwyddo i mewn i'r gwaed o'r aer yr ydym yn ei anadlu. Mae 'clefyd y ffarmwr'yn enghraifft o hyn.
Gall anhwylderau eraill effeithio ar y leinin tenau rhwng ein hysgyfaint a'n cawell asennau. Gall asbestos achosi nifer o wahanol glefydau galwedigaethol yma.
Y ffactorau sy'n eu cysylltu i gyd yw'r ffaith eu bod wedi cael eu hachosi gan rywbeth yn yr amgylchedd gwaith.
Bydd y math o driniaeth a dderbyniwch yn dibynnu ar y math o glefyd yr ysgyfaint sydd gennych chi.
[TOP]
Asthma galwedigaethol
Mae asthma yn anhwylder yr ysgyfaint sy'n effeithio ar y tiwbiau sy'n cario
aer i mewn ac allan o'r ysgyfaint (y 'llwybrau anadlu'). Mae gan bobl ag asthma lwybrau anadlu sensitif sy'n troi'n llidiog dan rai amgylchiadau. Bydd y llwybrau anadlu'n culhau ac weithiau byddant yn cynhyrchu mwy o fwcws nag arfer. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd anadlu.
Erbyn hyn nodwyd cannoedd o wahanol sylweddau yn y man gwaith sy'n gallu achosi asthma. Os oes gennych asthma sy'n cael ei achosi gan rywbeth yn y man gwaith, yna mae gennych 'asthma galwedigaethol.'
Fodd bynnag, gall unrhyw un ag asthma ganfod fod aer sy'n llychlyd neu'n llawn mygdarth yn gwneud eu symptomau'n waeth. Os yw eich man gwaith fel hyn – ac ni ddylai fod felly – yna gall eich asthma fod yn waeth yn eich man gwaith. Ond asthma yw hyn sy'n gwaethygu oherwydd gwaith, nid yw'n cael ei achosi ganddo. Yn yr achos hwn, nid asthma galwedigaethol yw hyn mewn gwirionedd.
Ymhlith y swyddi lle mae cyfraddau uchel o asthma galwedigaethol mae:
- y diwydiant pobi (bydd pobl yn datblygu alergedd i rywbeth yn y blawd, neu'r ychwanegion, ac mae'r alergedd yn achosi'r asthma)
- electroneg (fflwcs sodro)
- chwistrellu paent a phlastigau (cemegau o'r enw isocyanates)
- swyddi sy'n dod â phobl i gysylltiad â rwber latecs naturiol (menig meddygol).
Mae llawer iawn mwy o achosion – ac mae rhai nad ydynt wedi cael eu nodi eto. Fel arfer bydd asthma galwedigaethol yn datblygu ar ôl misoedd, neu flynyddoedd hyd yn oed, o gyswllt â'r sylwedd. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai na chafodd unrhyw effaith o gwbl. Yna bydd pobl yn dechrau sylwi ar broblemau sy'n gwaethygu yn ystod shifft a thros wythnos waith. Maen nhw'n sylwi bod eu symptomau'n gwella pan fônt i ffwrdd o'u gwaith. Bydd rhinitis – trwyn llawn neu redegog – yn digwydd yn aml ochr yn ochr ag asthma galwedigaethol.
[TOP]
COPD (Clefyd yr Ysgyfaint Rhwystrol Cronig – Chronic Obstructive Pulmonary Disease)
Mae COPD yn derm a ddefnyddir am nifer o anhwylderau gan gynnwys broncitis cronig ac emffysema. Bydd COPD yn arwain at lwybrau anadlu wedi eu niweidio yn yr ysgyfaint, gan eu gwneud yn gulach a'i gwneud yn anos i aer fynd i mewn ac allan o'r ysgyfaint. Mae'r gair 'cronig' yn golygu bod y broblem yn un tymor hir.
Gall glowyr a phobl sydd wedi weldio mewn mannau cyfyng am gyfnodau hir (weldwyr mewn iardiau llongau, er enghraifft) ddatblygu COPD. Gall hyn ddigwydd mewn pobl sydd wedi gweithio â chadmiwm hefyd. Gall pobl sydd wedi dod i gyffyrddiad â llwch a mygdarth am gyfnod hir mewn diwydiannau eraill ddatblygu COPD, ond nid oes ddigon o dystiolaeth feddygol eto i gadarnhau hyn yn bendant.
[TOP]
Alfeolitis galwedigaethol
Codennau awyr bach yn ein hysgyfaint lle mae ocsigen yn pasio i mewn i'n gwaed yw'r alfeoli. Gallwch gael adwaith alergaidd sy'n effeithio ar yr alfeoli os byddwch yn anadlu gronynnau bychan, o'r enw proteinau, i mewn; gall y rhain fod yn hofran yn yr awyr.
Os dewch i gysylltiad sydyn â swm enfawr o'r proteinau hyn, gall eich gwneud yn sâl iawn. Daw'r salwch hwn ymlaen yn gyflym iawn, a gall achosi twymyn, peri eich bod yn mynd yn fyr eich gwynt a chreu problemau ar raddfa eang yn eich system.
Gall symiau llai o broteinau dros gyfnodau hir o amser arwain yn raddol at greithio'r ysgyfaint yn barhaol. 'Clefyd y ffarmwr' (a achosir gan ffwng mewn gwair wedi llwydo) yw'r enghraifft orau y gwyddom amdani. Mae llawer o rai eraill, er hynny, yn arbennig ymhlith pobl sy'n gweithio yn y maes tyfu neu brosesu bwyd.
Bydd yr un salwch yn digwydd mewn bridwyr colomennod, ac weithiau mewn pobl sy'n cadw aderyn fel anifail anwes yn unig, fel byji neu barot.
[TOP]
Canser yr ysgyfaint galwedigaethol
Os ydych yn dod i gyffyrddiad â symiau mawr o asbestos, gall achosi canser yr ysgyfaint.
Nid yw canser yr ysgyfaint – sy'n dechrau yn y llwybrau anadlu – yr un peth â mesothelioma. Canser arall yw hwn sydd hefyd yn cael ei achosi gan asbestos, ond mae'n dechrau yn leinin yr ysgyfaint. Gall gymryd llawer llai o asbestos i achosi mesothelioma na chanser yr ysgyfaint. Am fwy o wybodaeth am mesothelioma cliciwch yma os gwelwch yn dda.
Mae ymbelydredd yn cynyddu'r perygl o ganser yr ysgyfaint. Felly hefyd gwaith â nicel a rhai mathau o gromiwm.
[TOP]
Anhwylderau galwedigaethol sy'n effeithio ar leinin yr ysgyfaint
Yn ogystal â mesothelioma, gall asbestos achosi anhwylderau nad ydynt yn ganseraidd yn leinin yr ysgyfaint. Rhannau o feinwe wedi'i greithio yw 'placiau pliwrol'; nid ydynt yn achosi canser nac yn troi'n ganser ac, yn gyffredinol, nid ydynt yn achosi symptomau chwaith. 'Tewychiad gwasgaredig pliwrol' yw'r term pan fo leinin yr ysgyfaint yn troi'n fwy trwchus. Gall hyn atal yr ysgyfaint rhag ymagor, ac felly bydd yn gwneud i chi deimlo'n fyr eich gwynt.
[TOP]
Beth ddylwn i ei wneud os rwy'n meddwl fod gennyf glefyd yr ysgyfaint galwedigaethol?
Rhaid i chi sgwrsio â'ch meddyg teulu. Rhowch fanylion eich symptomau, eich swydd a'r deunyddiau rydych chi'n gweithio â nhw. Bydd angen i chi weld arbenigwr yr ysgyfaint mewn ysbyty i gael diagnosis llawn bob amser bron. Byddant yn gwneud profion. Gall y rhain gynnwys pelydr-x o'r frest, profion gwaed, a phrofion manwl ar weithrediad yr ysgyfaint.
Os yw'r meddyg yn meddwl y gallech fod ag asthma galwedigaethol, fel arfer bydd yn gofyn i chi ddefnyddio rhywbeth o'r enw mesurydd briglif (peak flow meter). Darn bach o gyfarpar yw hwn sy'n cadw golwg ar eich anadlu yw hwn. Bydd angen i chi wneud y prawf hwn gartref ac yn y gwaith i weld a yw eich anadlu'n newid gan ddibynnu lle rydych chi. Efallai y bydd angen sgan o'r enw sgan CT â chlefydau ysgyfaint galwedigaethol eraill (yn arbennig y rhai hynny sy'n gysylltiedig ag asbestos).
[TOP]
Beth fydd yn digwydd os oes gen i glefyd yr ysgyfaint galwedigaethol?
Mae'n bwysig iawn darganfod a oes gennych chi glefyd yr ysgyfaint galwedigaethol. Os fyddwch yn dal ati i weithio ag achos eich salwch, yna bydd gennych broblemau parhaol. Mae'n rhaid i gyflogwyr wneud eich gwaith yn ddiogel, a cheisio dod o hyd i amgylchedd gwaith ac arferion gwaith i chi na fydd yn achosi rhagor o broblemau. Weithiau, efallai y bydd angen i chi newid eich gwaith.
[TOP]
Iawndal a budd-daliadau
Os ydych chi angen cymorth ag unrhyw un o'r ffurflenni cais a restrir yn yr 03000 030 555.
Os ydych chi'n cael diagnosis o glefyd yr ysgyfaint galwedigaethol, gallwch chi a'ch teulu gael cymorth ariannol. Gallwch wneud hyn mewn dwy ffordd:
- Drwy hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (Industrial Injuries Disablement Benefit - IIDB). Bydd rhai o'r clefydau'n cael eu galw'n "glefydau rhagnodedig". Dyma'r clefydau y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu cydnabod fel clefydau diwydiannol. Os oes gennych chi un ohonynt gallwch fod yn gymwys ar gyfer IIDB.
- Drwy erlyn am iawndal neu hawlio swm un taliad.
[TOP]
Sut i hawlio IIDB
I wneud cais am ffurflen gais dylech gysylltu â'ch Canolfan Byd Gwaith lleol, neu ffonio llinell wybodaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau - 0800 88 22 00.
Mae nifer o wahanol ffurflenni hawlio gan ddibynnu pa glefyd sydd gennych chi. Dyma nhw:
- BI100B; cyffredinol, ar gyfer clefydau ac eithrio'r rhai penodol a restrir isod
- BI100C: broncitis cronig ac emffysema (COPD)
- BI100E: rhinitis alergaidd
- BI100-OA: asthma galwedigaethol
- BI100-OD: byddardod galwedigaethol
- BI100PN: niwmoconiosis, byssinosis, mesothelioma gwasgaredig, tewychiad pliwrol gwasgaredig a chanser yr ysgyfaint (pan fo ar y cyd ag asbestosis neu dewychiad pliwrol gwasgaredig)
Efallai y byddwch angen rhywfaint o help i lenwi'r ffurflen. Efallai hefyd y byddwch angen holi perthynas, gweithiwr cymdeithasol, cynrychiolydd undeb llafur neu eich meddyg am gymorth a chyngor. Byddant yn eich holi'n fanwl am hanes eich swyddi.
[TOP]
Sut bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud am geisiadau
Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen hawlio, dychwelwch i'r Canolfan Byd Gwaith neu'r swyddfa nawdd cymdeithasol agosaf. Os oes gennych chi unrhyw dystiolaeth feddygol sy'n berthnasol i'ch cais, dylech ei hanfon â'r ffurflen hawlio.
Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ysgrifenedig fod y ffurflen hawlio wedi'i derbyn.
Efallai y bydd yn rhaid i'r Adran Gwaith a Phensiynau gysylltu â'ch cyflogw(y)r i gadarnhau:
- eich cyfnodau gwaith
- bod eich cyflogaeth yn un fel enillydd cyflog
- eich bod wedi gweithio ag unrhyw offer neu dan amodau sy'n berthnasol i'ch cais.
Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau'n cytuno i fynd â'ch cais ymhellach, bydd eich papurau'n cael eu cyfeirio i wasanaethau meddygol ac efallai y bydd gofyn i chi fynd am archwiliad meddygol.
Os bydd gofyn i chi fynd am archwiliad meddygol a'ch bod yn methu â chyrraedd yno heb reswm da, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
[TOP]
Achosion llwybr carlam
Bydd ceisiadau ar gyfer mesothelomia ac ar gyfer pob clefyd arall lle bo'r unigolyn yn derfynol wael, yn cael eu trin fel achosion llwybr carlam. Bydd yr achosion hyn yn cael blaenoriaeth bob tro.
Meini prawf penodol: mae gan rai clefydau rhagnodedig feini prawf penodol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn gwneud cais - gallwch gael mwy o wybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cytuno â'ch cais, byddant yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu o hyn.
[TOP]
Erlyn am iawndal
Gallwch hawlio iawndal gan eich cyflogwr drwy eu herlyn am esgeulustod. Bydd angen i chi ddangos y canlynol:
- Cafodd y clefyd ar eich ysgyfaint ei achosi yn y gwaith mwy na thebyg
- Ni wnaeth eich cyflogwr ar y pryd gynnal y safonau sydd eu hangen yn ôl y gyfraith (h.y. roedd yn esgeulus)
[TOP]
Mae hwn yn faes arbenigol o'r gyfraith a dylech gael cyngor gan gyfreithiwr arbenigol.
Os ydych chi'n aelod o undeb, efallai y bydd yn gallu argymell cyfreithiwr profiadol. Fel arall, mae gan Gymdeithas y Cyfreithwyr restr o gyfreithwyr arbenigol. Gallwch eu ffonio ar 0870 606 6575 – cliciwch yma i weld y rhifau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Efallai y gall eich undeb llafur neu eich corff proffesiynol dalu am y gost o wneud cais. Os na, efallai y bydd eich cyfreithiwr yn barod i gymryd eich achos ar sail 'heb ennill, heb dâl' (yna efallai y bydd yn rhaid i chi dalu un premiwm yswiriant unigol). Efallai hefyd y bydd eich cyfreithiwr yn gallu hawlio eich costau gan eich cyflogwr.
Gallwch barhau i wneud cais hyd yn oed os nad yw eich cyflogwr mewn busnes bellach. Bydd eich cyfreithiwr yn gwneud y cais yn erbyn yswiriwr eich cyflogwr.
Os byddwch yn derbyn iawndal, bydd y swm terfynol wedi'i seilio ar gyfuniad o'r canlynol:
- iawndal am boen a dioddefaint (a llog ar hynny)
- colli enillion (a llog ar hynny)
- costau gofal
- treuliau eraill (fel addasu eich cartref)
- iawndal am brofedigaeth
[TOP]
Deddf Clefyd y Llwch (Digolledu Gweithwyr) 1979
Os na all eich cyfreithiwr ddod o hyd i'ch cyflogwr na'i yswirwyr, efallai y byddwch yn gallu cael swm un taliad dan Ddeddf Seneddol o'r enw 'Deddf Clefyd y Llwch (Digolledu Gweithwyr) 1979'. Gall eich cyfreithiwr neu eich Canolfan Byd Gwaith lleol eich helpu â hyn.
[TOP] Cymryd camau cyfreithiol
Efallai y bydd modd i chi hefyd erlyn eich cyflogwr presennol neu eich cyn-gyflogwr. Byddai angen i chi ddangos eu bod yn esgeulus o ran eich rhoi mewn cysylltiad â'r sylweddau sydd wedi achosi eich problemau. Gallwch ddod ag achos fel hyn ger bron ar gyfer rhai anhwylderau nad ydynt yn gymwys ar gyfer Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Gall y symiau arian ellir eu dyfarnu fod yn rhai llawer mwy.
Os ydych chi'n ystyried hyn, mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud yn siwr â'ch arbenigwr ysgyfaint yn y lle cyntaf ei fod ef/hi yn meddwl bod eich cyflwr yn debygol o fod yn gysylltiedig â'ch gwaith.
Mae'n hanfodol hefyd eich bod yn dod o hyd i gyfreithiwr sy'n ymdrin yn rheolaidd â'r math hwn o achos. Mae hwn yn faes arbenigol. Dylech eu holi faint o achosion posibl o glefydau ysgyfaint galwedigaethol y mae eu cwmni'n ymdrin â nhw bob blwyddyn. Gallech hefyd ofyn i'ch undeb (os oes gennych un) i argymell cyfreithiwr i chi. Fel arall, mae gan Gymdeithas y Cyfreithwyr restr o gyfreithwyr arbenigol – cliciwch yma i gael y manylion cyswllt.
Efallai y gall eich undeb llafur neu eich corff proffesiynol dalu'r costau o wneud cais. Os na, efallai y bydd eich cyfreithiwr yn barod i gymryd eich
achos ar sail 'heb ennill, heb dâl'; (yna efallai y bydd yn rhaid i chi dalu un premiwm yswiriant unigol). Efallai hefyd y bydd eich cyfreithiwr yn gallu hawlio eich costau gan eich cyflogwr.
[TOP]
Mwy o ffynonellau cymorth a gwybodaeth
| Sefydliad | Rhif ffôn | Cyfeiriad gwefan |
| Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint | Llinell gymorth 03000 030 555 | www.lunguk.org |
| Yr Adran Gwaith a Phensiynau | 0800 88 22 00 | www.dwp.gov.uk |
| Yr Adran Gwaith a Phensiynau (ar gyfer Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol) | Ffoniwch Canolfan Byd Gwaith (rhif yn y llyfr ffôn) | www.jobcentreplus.gov.uk |
| Cymdeithas y Cyfreithwyr (ar gyfer rhestr o gyfreithwyr arbenigol), Cymru a Lloegr | 0870 606 6575 | www.lawsociety.org.uk |
| Cymdeithas y Cyfreithwyr, Gogledd Iwerddon | 028 90 231614 | www.lawsoc-ni.org |
| Cymdeithas y Cyfreithwyr, Yr Alban | 0131 226 7411 | www.lawscot.org.uk |
[TOP]
Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Mawrth '07