Bwyd yw'r tanwydd y mae eich corff ei angen ar gyfer popeth a wnewch chi, gan gynnwys anadlu. Mae eich corff yn defnyddio bwyd ar gyfer egni fel rhan o broses o'r enw 'metabolaeth.' Dyma sy'n digwydd pan fo bwyd ac ocsigen yn cael eu troi'n egni a charbon deuocsid.
Mae bwyta'n iach yn fodd hefyd i'r corff ymladd heintiau. Gall heintiau ar y frest fod yn beryglus i bobl sydd â phroblem â'r ysgyfaint. Gallwch leihau eich risg o gael haint drwy fwyta'n dda.
Pum maetholyn hanfodol
Mae pum maetholyn yn hanfodol ar gyfer iechyd a bywyd.
1. Proteinau
• I'w cael mewn llefrith, wyau, cig, da pluog, pysgod, cnau, corbys
• Mae'r corff yn defnyddio proteinau i drwsio meinwe a niweidiwyd
• Cofiwch dorri'r braster oddi ar gig – mae gormod o fraster yn ddrwg i chi
2. Carbohydradau
• I'w cael mewn bara, grawnfwyd, reis, pasta, ffrwyth a thatws
• Dyma'r ffurf hawsaf o egni i'w dreulio
• Os oes llawer o ffibr ynddynt, maen nhw'n helpu eich coluddyn i weithio'nwell ac yn gostwng eich colesterol
3. Braster
• I'w gael mewn menyn, margarîn, olew olewydd, olew llysiau, cnau
• Maen nhw'n ffynhonnell egni a fitaminau A, D, E a K yn bennaf
4. Mwynau
• I'w gael mewn iau, wyau, cig, pysgod a ffrwythau sych fel rhesins
• Mae llefrith a chaws yn llawn calsiwm (a fitamin D)
• Mae calsiwm a fitamin D yn helpu i sicrhau esgyrn a dannedd iach. Mae haearn yn bwysig ar gyfer eich gwaed.
• Mae calsiwm yn arbennig o bwysig i bobl sy'n cymryd dos mawr o steroidau
5. Fitaminau
• A – mae'n gwella'r golwg ac yn helpu i ymladd heintiau – mae i'w gael mewn menyn a nifer o lysiau gwyrdd tywyll
• B – angenrheidiol ar gyfer gweithrediad arferol y nerfau, treulio bwyd yn dda, awch bwyd da a chroen iach – i'w gael mewn bara grawn cyflawn a grawnfwydydd, cig, pysgod a chynnyrch llaeth
• C – yn dda ar gyfer ymladd haint. Y ffynonellau gorau yw ffrwythau sitraidd (orennau, grawnffrwyth), mefus a brocoli
• D – mae'n helpu o ran cael esgyrn a dannedd iach. I'w gael mewn llefrith a chaws
• E - i'w gael mewn grawnfwyd grawn cyflawn
• K – mae'n rheoli ceulo'r gwaed – i'w gael mewn blodfresych, cêl, pigoglys, ysgewyll, ffa soia, cig a the gwyrdd
[TOP]
Eich pwysau delfrydol
Os ydych chi'n pwyso gormod, mae'n rhaid i'ch calon a'ch ysgyfaint weithio'n galetach i roi ocsigen i'ch corff.
Mae gormod o fraster yn ei gwneud hi'n anos i'ch ysgyfaint weithio'n gywir. Bydd colli pwysau drwy ddiet ac ymarfer yn gwneud y broses o anadlu'n haws.
Os ydych chi'n pwyso gormod, rhowch gynnig ar fwyta dognau llai. Gwnewch fwy o ymarfer er mwyn ceisio colli 1-2 pwys yr wythnos. Efallai na fydd colli pwysau'n rhy gyflym yn dda i chi.
Dydy bod tan bwysau ddim yn beth da chwaith. Gallwch deimlo'n wan ac yn flinedig, a byddwch yn fwy tebygol o ddatblygu haint ar y frest. Mae'n bwysig eich bod yn bwyta digon o galorïau i atal y cyhyrau rhag nychu neu wanychu.
Siaradwch â'ch nyrs neu eich Meddyg Teulu i ddarganfod beth yw eich pwysau delfrydol.
[TOP]
Bwydydd siwgraidd
Does dim maetholynnau mewn siwgr. Dydyn ni ddim angen siwgr i gael egni; rydym yn cael y cyfan rydym ei angen o fwydydd eraill rydym yn eu bwyta. Mae gormod o siwgr yn eich diet yn golygu fod tewdra a phydredd dannedd yn fwy tebygol.
Awgrymiadau
• Bwytewch lai o fyrbrydau'n cynnwys bwydydd siwgraidd
• Rhowch gynnig ar ddefnyddio melysyddion yn lle siwgr mewn diodydd
Colli awch bwyd
Os fyddwch yn teimlo'n sâl, yn cynhyrchu llawer o fwcws, neu'n teimlo'n fyr eich gwynt – fe allwch chi golli eich awch bwyd.
[TOP]
Awgrymiadau
• Cymrwch eich meddyginiaeth gyda bwyd oni bai eich bod yn cael cyngor gwahanol. Bydd hyn yn eich atal rhag cael anhwylder ar y stumog.
• Amrywiwch liwiau ac ansawdd eich bwyd
• Defnyddiwch addurnau lliwgar i roi lliw i fwyd a'i wneud yn fwy deniadol
• Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer yn rheolaidd
• Manteisiwch ar brydau sydd ar gael mewn canolfannau cymunedol, clybiau ac eglwysi lleol
• Rhowch gynnig ar yfed diodydd egni uchel – does dim angen cymaint o egni i'w treulio
• Brwsiwch eich dannedd cyn prydau
[TOP]
Cyhyrau'n gwanhau
Os ydych chi'n sâl efallai y byddwch yn gwneud llai o ymarfer. Gall eich cyhyrau wanhau. Ceisiwch fwyta diet cytbwys.
• Bwytewch fwy o fwydydd protein uchel - cig, pysgod, da pluog a chynnyrch llaeth
• Ychwanegwch gaws wedi'i ratio at lysiau, cawliau a chaserolau
• Defnyddiwch lefrith ddwywaith y cryfder yn lle dŵr ar gyfer grawnfwyd a phwdinau llaeth (llefrith dwywaith y cryfder yw un cwpanaid o lefrith cyflawn ag 1/3 cwpanaid o bowdwr llefrith sych heb fraster wedi'i ychwanegu ato)
• Ychwanegwch wyau wedi eu berwi'n galed at diwna a chyw iâr ar gyfer brechdanau/ saladau
• Ychwanegwch lefrith sych heb fraster at gaserolau, cwstard a phwdinau
[TOP]
Teimlo'n chwyddedig
Gall bwyta gormod o'r un math o fwydydd wneud i'ch stumog deimlo'n chwyddedig. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anos i anadlu.
• Ceisiwch fwyta mwy o brydau bach bob dydd, yn hytrach na dau neu dri o brydau mawr
• Osgowch fwydydd sy'n creu nwy fel ysgewyll, bresych, ffa, cwrw a da-da
• Bwytewch yn araf ac mewn awyrgylch ymlaciol, os gallwch chi
Daliwch ati i yfed
Mae'n bwysig cadw'r secretiadau yn eich ysgyfaint yn denau ac yn hawdd i'w pesychu i fyny. Os nad ydych chi'n yfed digon, bydd eich secretiadau'n drwchus ac yn ludiog a bydd hyn yn cynyddu'r siawns o gael haint. Bydd yfed digon yn eich helpu i dreulio bwyd ac i osgoi mynd yn rhwym hefyd. Dŵr yw eich dewis gorau.
• Yfwch o leiaf 2.5 litr o ddiod bob dydd (sudd, ysgytlaeth, dŵr)
• Pan fo gennych chi haint neu dwymyn, neu yn ystod tywydd poeth, yfwch fwy
[TOP]
Cadwch lefel eich potasiwm i fyny
Os ydych chi'n defnyddio tabledi dŵr - sy'n cael eu defnyddio weithiau i ostwng pwysedd gwaed - rydych yn colli hylif a photasiwm. Pan fo'ch potasiwm yn isel gallwch deimlo'n wan, cael pinnau bach neu grampiau yn eich coesau.
• Mae potasiwm yn bwysig ar gyfer rheoli eich pwysedd gwaed a'ch cyhyrau
• Mae llawer o botasiwm yn y bwydydd canlynol: bananas, rhesins, tomatos, bricyll sych, ysgewyll, orennau, cnau mwnci, tatws a ffa wedi eu coginio
[TOP]
Cadwch lygad ar yr halen
• Mae'r rhan fwyaf ohonom yn bwyta gormod o halen – ddylech chi ddim bod yn bwyta mwy na 6g y dydd
• Gall gormod o halen gynyddu eich pwysedd gwaed, sy'n gwneud clefyd y galon a strociau'n fwy tebygol
Y sodiwm mewn halen sy'n creu'r broblem. Mae 6g o halen yn cynnwys 2.5g o sodiwm. Mae hynny'n ddigon ar gyfer un diwrnod
• Osgowch ychwanegu halen at fwyd. Defnyddiwch berlysiau, sbeisys a phupur wedi'i falu'n fân i roi blas yn lle hynny
• Mae'r rhan fwyaf o'r halen rydym yn ei fwyta wedi'i guddio mewn prydau wedi eu coginio ymlaen llaw neu wedi eu pecynnu ymlaen llaw – edrychwch ar y rhestr cynhwysion i weld faint o halen neu sodiwm sydd ynddynt
• Ceisiwch beidio â bwyta gormod o fyrbrydau hallt
[TOP]
Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Ionawr 2008