Skip navigation |
Home
[Viewing Options]

Bronciolitis a'ch faban (bronchiolitis and your child)

Beth yw bronciolitis?

Llid a rhwystr yn llwybrau anadlu lleiaf ysgyfaint eich babi yw bronciolitis. Firws sy'n ei achosi. Mae bronciolitis yn gwneud i'ch babi besychu a mynd yn fyr ei wynt.

Y firws mwyaf cyffredin sy'n achosi bronciolitis yw'r Firws Resbiradu Syncytiol (Respiratory Syncytial Virus - RSV).

Mae bronciolitis fwyaf cyffredin rhwng Tachwedd a Mawrth.

Sut y mae bronciolitis yn effeithio ar fy mabi?

Fel arfer bydd bronciolitis yn dechrau fel annwyd cyffredin. Dim ond symptomau ysgafn fydd gan lawer o fabanod a bydd modd gofalu amdanynt gartref.Fodd bynnag bydd rhai babanod yn cael symptomau mwy difrifol ac yn ei chael yn anodd i fwydo ac yn mynd yn fyr iawn eu gwynt. Efallai y bydd ganddynt lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

Bydd y rhan fwyaf o fabanod yn gwella heb driniaeth ond bydd rhaid i rai fynd i mewn i'r ysbyty. Gall hyn ddigwydd os ydynt yn cael trafferth i fwydo ac yn pesychu'n drwm, neu efallai y byddant angen ocsigen am gyfnod byr.

[TOP]

A yw'n beth cyffredin mewn plant bach?

Ydy. Erbyn iddynt fod yn ddwy oed, bydd bron iawn pob un plentyn bach wedi cael un haint RSV o leiaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd wedi achosi dim mwy nag annwyd cyffredin.

Beth yw'r arwyddion y dylwn edrych amdanynt?

Dyma rai arwyddion pwysig y dylech edrych amdanynt yn eich babi, os oes ganddynt annwyd sydd i'w weld yn para'n hwy nag arfer.

• Mae eich babi'n cael mwy o drafferth i fwydo

• Mae eich babi'n fwy cysglyd neu'n llai effro nag arfer

• Mae gan eich babi fwy o symptomau, neu rai newydd, fel peswch, gwich neu anhawster anadlu neu fwydo.

• Mae lliw croen eich babi'n newid, mae'n welw neu'n gochlyd, er enghraifft.

Os ydych chi'n poeni holwch eich meddyg teulu am gyngor neu cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

[TOP]

A oes unrhyw fodd o atal bronciolitis?

Nac oes. Y cyfan allwch chi ei wneud yw gofyn i oedolion a phlant eraill sydd â haint feirol i gadw draw oddi wrth eich babi. Synnwyr cyffredin yw hyn (er nad yw'n bosibl bob amser). Does dim brechiad ar gael.

Mae bronciolitis yn heintus iawn. Os oes gennych chi blant eraill mae'n bosib' y byddan nhw'n cael eu heffeithio hefyd. Mae'n wirioneddol bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr fod pawb sy'n dod i gysylltiad â'ch babi yn golchi eu dwylo'n drwyadl.

[TOP]

Beth alla'i ei wneud i helpu fy mabi?

Mae'n bwysig bod eich babi'n cael digon o ddiod fel nad yw ef/hi'n mynd yn ddadhydredig. Os ydych chi'n bwydo o'r fron, daliwch ati os gwelwch yn dda, ond cadwch lygad i weld a yw eich babi'n cael trafferth i fwydo ac yn cymryd mwy o amser nag arfer. Os ydych chi'n bwydo â photel cadwch lygad i weld a yw eich babi'n gorffen y botel yn yr amser arferol. Efallai y bydd yn well bwydo am gyfnodau byrrach yn amlach fel nad yw eich babi'n mynd yn flinedig.

Gwnewch yn siŵr eu bod yn dal i wlychu eu clytiau - mae hyn yn arwydd fod eich babi'n cael digon o ddiod.

Os bydd eich babi'n datblygu tymheredd uchel mae'n bwysig eich bod yn rhoi paracetamol iddo ef/hiyn ôl y dos a nodir ar y botel. Gwnewch yn siŵr nad yw eich babi'n mynd yn orgynnes a pheidiwch byth â'i orlapio ef/hi os oes ganddo ef/hi dymheredd.

Gan mai firws sy'n achosi bronciolitis ni fydd angen gwrthfiotigau fel arfer.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch teulu'n golchi eich dwylo'n dda cyn, ac ar ôl, codi eich babi i fyny gan fod modd trosglwyddo’r firws o un person i'r llall.

Chi sy'n adnabod eich babi orau a byddwch yn gwybod pan fo rhywbeth o'i le.

[TOP]

A oes angen i'm babi weld arbenigwr?

Mae'r rhan fwyaf o achosion o bronciolitis yn ysgafn a bydd modd eu trin gartref â chymorth eich meddyg teulu os bydd angen. Os yw eich babi'n llai na chwech wythnos oed neu os oes ganddo ef/hi broblemau meddygol eraill (fel clefyd cynhenid y galon) yna efallai y byddai'n syniad da mynd i weld paediatregydd neu fynd i'r ysbyty.

Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd angen unrhyw feddyginiaethau neu fewnanadlwyr, ond efallai y bydd rhai babanod angen cymorth i fwydo. Gall hyn fod trwy roi tiwb bychan drwy drwyn eich babi i mewn i'w stumog ef/hi; neu drwy roi hylifau i mewn i'w (g)wythiennau am gyfnod byr.Gallwch drafod hyn â'r paediatregydd hefyd. Efallai y bydd rhai babanod angen ocsigen ychwanegol hefyd.

Does fawr ddim tystiolaeth fod broniciolitis yn achosi asthma. Fodd bynnag, efallai y bydd eich babi'n gwichian am beth amser ar ôl yr haint gwreiddiol.

Os ydych chi'n poeni am unrhyw beth arall gofynnwch am help drwy siarad â'ch meddyg teulu, paediatregydd, nyrs resbiradol neu ymwelydd iechyd. Neu ffoniwch linell gymorth Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint (British Lung Foundation) ar 03000 030 555.

[TOP]

Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Ionawr '05

Related Links