Beth yw bronciectasis?
Mae aer yn cael i gario i mewn i'ch ysgyfaint drwy gyfres o diwbiau canghennog (bronci). Mae'r bronci'n cynnwys chwarennau bychain sy'n cynhyrchu ychydig bach o fwcws. Mae hyn yn helpu i gadw'r tiwbiau'n llaith a dal y llwch a'r germau yr ydych yn eu hanadlu i mewn. Fel arfer bydd y mwcws yn cael ei symud wedyn gan flew bychan (o'r enw cilia) sy'n leinio'r tiwbiau.
Pan fo'ch tiwbiau bronciol yn cael eu niweidio, dydyn nhw ddim yn gallu glanhau eu hunain. Bydd y mwcws yn cynyddu, yn gorlifo i mewn i diwbiau eraill. Yna bydd y tiwbiau hyn yn fwy tebygol o gael eu heintio gan facteria. Mae hyn yn achosi llid sy'n arwain at niwed o'r enw 'bronciectasis'.
Beth sy'n ei achosi?
Mae sawl achos hysbys gan gynnwys:
• Haint genetig gwaelodol fel ffibrosis cystig – lle mae'r mwcws yn y tiwbiau bronciol yn rhy drwchus - neu gam-symud blewynnol cychwynnol (primary ciliary dyskinesia), lle nad yw'r blew sy'n leinio'r tiwbiau bronciol yn gweithio'n iawn
• Rhwystr oherwydd creithio. Pan fo tiwbiau a niweidiwyd yn gwella, gall creithio ddigwydd. Gall y creithio arwain at rwystrau. Gall hyn ddigwydd os ydych wedi cael heintiau fel niwmonia, y pâs neu'r frech goch pan yn blentyn
• Rhwystr yn y tiwbiau bronciol oherwydd bwyd, fel cnau mwnci
• Diffyg imiwnedd i haint, er enghraifft: diffyg gwrthgyrff sy'n digwydd weithiau ar ôl cael haint feirol pan yn oedolyn
• Diffyg traul – ond mae hyn yn beth anghyffredin.
Fodd bynnag, does dim achos amlwg mewn dros hanner y bobl sydd â bronciectasis yn y DU.
[TOP]
Sut mae'n datblygu?
Mae bron pob un achos o bronciectasis yn golygu nad yw eich tiwbiau bronciol yn gallu clirio mwcws gystal.
Os yw bacteria'n byw'n goroesi yn y tiwbiau, bydd llid yn digwydd a'r corff yn anfon celloedd gwyn y gwaed i ladd y bacteria. Os na all y celloedd hyn atal y llid, am resymau amrywiol, gall y cemegyn y maen nhw'n ei gynhyrchu niweidio'r meinwe iach o'u cwmpas.
Mae'r niwed hwn yn arwain at fwy o haint sy'n golygu bod eich tiwbiau'n mynd yn fwy llidus ac yn cynhyrchu mwy o fwcws.
[TOP]
Sut mae gwneud diagnosis?
Os oes gennych chi beswch parhaol, sy'n cynhyrchu crachboer heintiedig, mae tri chategori o brofion y dylai eich meddyg eu cynnal:
• prawf i ddarganfod a yw'r symptomau'n deillio o bronciectasis ac, os felly, beth ydyw a pha mor ddrwg ydyw. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gyfrwng sgan CT cydraniad uchel sy'n ddi-boen
• profion i weld a yw wedi effeithio ar weithrediad eich ysgyfaint a darganfod pa facteria sy'n bresennol yn eich crachboer
• profion gwaed a phrawf i weld faint o halen sy'n bresennol yn eich chwys.Efallai y bydd angen i'ch meddyg ddefnyddio telesgop hyblyg bychan iawn (broncosgop) i weld a oes gennych rwystr.
• efallai y bydd dynion angen prawf ffrwythlondeb.
[TOP]
Beth yw'r symptomau?
Y symptom mwyaf cyffredin yw poeri fflem allan, llawer iawn ohono'n aml, bob dydd. Mae hyn yn beth blinedig iawn ac mae llawer o bobl yn ei gael yn embaras. Hyd yn oed o ystyried hyn, mae pobl yn aml yn teimlo'n flinedig iawn, a dydyn nhw ddim yn gallu canolbwyntio.
Mae 80 y cant o'r bobl sy'n dioddef o bronciectasis hefyd yn fyr eu gwynt ac yn gwichian. Bydd trydedd ran yn dioddef o lid y sinysau tymor hir.
Ymhlith y symptomau llai cyffredin mae pesychu gwaed (gwaedboer), poen yn y frest a phoen yn yr aelodau.
Gallwch hefyd ddioddef o symptomau ychwanegol yn deillio o gyflyrau cysylltiedig : dolur rhydd gwaedlyd oherwydd cyflwr o'r enw colitis briwiol; crydcymalau gwynegol; ac anffrwythlondeb (mewn dynion yn bennaf), er enghraifft.
Efallai y bydd eich meddyg yn gallu clywed cleciadau yn eich brest oherwydd bod mwcws yn dal yn eich tiwbiau.
[TOP]
Sut mae'n cael ei drin?
• Llawdriniaeth - os nad oes unrhyw achos gwaelodol all arwain at bronciectasis eto, a bod y bronciectasis mewn un rhan fechan o'r ysgyfaint yn unig a bod modd ei dynnu oddi yno heb niweidio eich anadlu, yna efallai y gall llawdriniaeth i'w dynnu fod yn ateb – ond mae hyn yn beth anghyffredin
• Os oes modd dod o hyd i'r achos, mae'n rhaid ei drin (drwy newid gwrthgyrff os yw lefel eich gwrthgyrff yn isel, er enghraifft)
• Ymarfer – mae ymarfer rheolaidd fel cerdded neu nofio yn helpu i lacio mwcws fel y gallwch ei boeri allan yn haws
• Ffisiotherapi dyddiol - gallwch wneud hyn eich hun, gan ddefnyddio ymarferion pesychu neu ddisgyrchiant i ddraenio'r tiwbiau a heintiwyd
• Triniaeth gwrth-asthma – gall hyn wella llif yr aer drwy eich tiwbiau bronciol
• Diferion a chwistrellwyr ar gyfer y trwyn – gall y rhain helpu os oes gennych haint yn y trwyn neu'r sinws neu drwyn yn rhedeg
• Gwrthfiotigau - i drin heintiau, rydych yn cymryd y rhain yn rheolaidd neu'n barhaus, i mewn i wythïen neu drwy eu hanadlu i mewn
• Trin unrhyw haint cysylltiedig
Bydd eich meddyg yn monitro pa mor llwyddiannus yw eich triniaeth. Mae hyn yn golygu bod modd newid eich triniaeth yn gyflym i ddiwallu eich anghenion.
Mae nifer o driniaethau sy'n helpu i glirio mwcws a lleihau llid yn cael eu profi gyda golwg ar y dyfodol.
Er mwyn atal yr haint bydd angen i ni allu nodi pwy sy'n debygol o'i gael.
[TOP]
Beth all fynd o'i le?
Ymhlith y cymhlethdodau all ddigwydd mae:
• pesychu gwaed (gwaedboer) sydd prin byth angen ei drin
• haint sy'n cael ei ledaenu gan y gwaed i rannau eraill o'r corff
• crawniad yn yr ysgyfaint – ond mae'r rhain yn anghyffredin
Er mwyn gwneud yn siwr fod eich triniaeth yn parhau i fod yn effeithiol, cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â'ch meddyg.
[TOP]
Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Ebrill ’07