Skip navigation |
Home
[Viewing Options]

Alergeddau (allergies)

Beth yw alergeddau?

Bydd rhai pobl yn mynd yn sâl ar ôl dod i gysylltiad â sylweddau nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar y rhan fwyaf o bobl eraill. Adwaith alergaidd yw'r enw ar hyn. Neu gallwch ddweud fod gan rywun 'alergedd' i'r sylwedd.

Gallwch gael adwaith alergaidd os wnewch chi anadlu, bwyta neu gael cyswllt corfforol â'r sylwedd rydych ag alergedd iddo. Gall adwaith alergaidd ymddangos mewn gwahanol ffyrdd, fel:

• tisian

• trwyn yn cosi neu'n rhedeg

• llygaid coch

• problemau anadlu a phesychu

• problemau croen cyffredin fel llosg danadl (hives) neu ecsema

Yr enw ar y sylweddau sy'n achosi'r adweithiau hyn yw alergenau. Enghreifftiau cyffredin o alergenau sy'n effeithio ar yr ysgyfaint yw:

• paill o laswellt a choed

• gwiddon llwch (dust mites) yn y cartref

• ffwr anifail

Mae gan rai pobl – rhwng chwarter a thrydedd ran ohonom – dueddiad i ddatblygu alergeddau. Mae hyn yn nodwedd mewn teuluoedd. Fodd bynnag, ni fydd pawb sydd â'r tueddiad hwn yn cael problemau ag alergeddau.

[TOP]

Alergeddau cyffredin

Gall rhai alergeddau achosi problemau gydol y flwyddyn; alergeddau tymhorol yw'r enw ar rai eraill, sydd ond yn effeithio arnom ar adegau arbennig.

Yr hyn sy'n achosi alergedd gydol y flwyddyn gan amlaf yw'r gwiddon llwch cartref. Bydd y gwiddon bychan hyn, sydd i'w cael ym mhob cartref a man gwaith, yn bwydo oddi ar y croen yr ydym yn ei ddiosg yn naturiol. Maen nhw'n arbennig o gyffredin mewn dillad gwely, fel clustogau a matresi.

Pethau eraill sy'n achosi alergedd gydol y flwyddyn yn gyffredin yw croen a ffwr o gathod, cŵn, ceffylau ac anifeiliaid eraill. Mae'r rhain i'w cael mewn mannau ar wahân i'r lle y mae'r anifeiliaid yn byw. Bydd alergenau anifeiliaid anwes i'w cael mewn ysgolion yn aml - maen nhw'n cael eu cludo yno o gartrefi disgyblion ac athrawon.

Mae gan rai pobl alergeddau oherwydd y sylweddau sydd i'w canfod yn eu man gwaith yn bennaf, fel mathau arbennig o lwch.

Ymhlith yr alergenau sy'n achosi problemau ar adegau arbennig o'r flwyddyn yn unig y mae: paill o goed (gwanwyn), glaswellt (canol haf) neu chwyn (diwedd yr haf). Gall rhai planhigion gynhyrchu sborau llwydni all achosi alergedd ddiwedd haf ac yn yr hydref.

[TOP]

Sut y mae alergeddau'n effeithio arnom ni?

Yr alergedd mwyaf cyffredin o ddigon yn y DU yw hwnnw i baill glaswellt: bydd yn cael ei alw'n glwy’ gwair yr haf, neu'n 'rhinitis alergaidd tymhorol'. Fel arfer bydd clwy’ gwair yn achosi:

• cosi

• tisian

• trwyn yn rhedeg neu wedi cau

• llygaid poenus

• taflod yn cosi

• problemau anadlu

Bydd lefelau paill yn yr aer yn amrywio gan ddibynnu ar y tywydd. Gallant godi'n sylweddol ar ddyddiau sych, heulog.

Mae rhinitis parhaol - 'annwyd parhaus' fel mae'n cael ei alw – yn cyfeirio at yr un symptomau all ddigwydd gydol y flwyddyn. Fel arfer bydd hyn mewn ymateb i widdon llwch a ffwr anifeiliaid.

Bydd y rhan fwyaf o bobl â rhinitis yn darganfod eu bod yn teimlo'n llawer gwell os ydynt yn defnyddio triniaethau fel chwistrellau trwyn a thabledi gwrth-histamin yn rheolaidd.

Gall eich Meddyg Teulu neu eich fferyllydd ddweud wrthych chi beth fydd yn gweddu orau i chi. Gall alergeddau achosi asthma hefyd, yn arbennig mewn pobl ifanc a rhai canol oed. Mae gan lawer o bobl asthma a rhinitis. Mae'n bwysig adnabod a thrin y ddau gyflwr, gan gynnwys sut i osgoi ennyn alergenau lle mae'n bosibl.

Gall asthma sy'n cael ei achosi gan sylweddau sy'n cael eu hanadlu i mewn yn y gwaith fod yn ddifrifol a pharhaol. Bydd rhai pobl yn canfod eu bod yn dal i ddioddef hyd yn oed ar ôl iddynt adael y gwaith neu ar ôl i'r sylwedd gael ei symud oddi yno. Mae'n bwysig darganfod yr hyn sy'n achosi'r broblem, a'i osgoi os yn bosibl.

Mae alergenau sy'n achosi problemau â'r ysgyfaint yn fwy cyffredin mewn rhai swyddi nag eraill. Gall ffermwyr sy'n gweithio â gwair wedi llwydo fod yn fwy tebygol o gael 'clefyd y ffarmwr' ('farmer's lung'). Cyflwr yw hwn all gael ei gamgymryd am haint gan fod y symptomau'n debyg. Gall pobl sy'n trin adar (gan gynnwys y rhai hynny sy'n eu cadw fel hobi) gael math o alergedd sy'n effeithio ar y codennau awyr yn yr ysgyfaint.

Cofiwch nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n gwneud y swyddi hyn yn debygol o gael problemau. Mae gan hyd at drydedd ran ohonom dueddiad teuluol i gael alergeddau, ac efallai y bydd rhai'n adweithio i'r alergenau. Fodd bynnag, er bod cyflyrau fel 'pigeon-fancier's lung' yn brin, fe allant achosi niwed i'r ysgyfaint a fydd yn mynd yn waeth hyd nes y byddwch yn darganfod yr hyn sy'n achosi'r broblem, ac yna'n ei osgoi.

[TOP]

Darganfod a oes gennych alergedd

Bydd eich meddyg teulu'n gallu dweud ar unwaith a oes gennych alergedd.

Os oes gennych glwy' gwair neu asthma sy'n gwaethygu ym mis Mehefin a Gorffennaf, mae'n debygol iawn eich bod ag alergedd i baill glaswellt. Ag alergeddau eraill, fel gwiddon llwch tŷ neu ffwr anifeiliaid, efallai y byddwch angen profion arbennig cyn y gall y meddyg fod yn sicr beth yw'r broblem.

Mae'n bosibl i gael mwy nag un alergedd hefyd. Mae rhai alergeddau yn haws eu nodi nag eraill. Efallai y bydd angen i chi weld arbenigwr mewn perthynas â rhai alergeddau.

[TOP]

Alla'i osgoi alergenau?

Mae'n anodd osgoi paill, yr hyn sy'n achosi alergedd gan amlaf. Fe all helpu i wisgo sbectol haul a chadw'r ffenestri ar gau, yn arbennig mewn ceir neu adeiladau uchel. Osgowch fannau glaswelltog agored, yn arbennig gyda'r nos neu yn ystod y nos pan fo mwy o baill ar wastad y llawr. Bydd edrych ar y cyfrifiadau paill dyddiol yn y cyfryngau o gymorth i chi. Gall gwyliau glan môr neu dramor yn ystod y tymor pan fo paill ar ei uchaf fod o gymorth.

Os oes gennych alergedd drwg i gathod neu gŵn, yna mae'n well peidio â'u cadw fel anifeiliaid anwes. Efallai na fydd y rhan fwyaf o bobl eisiau cael gwared ar ffrind i'r teulu, ond dylech ystyried hyn yn ofalus. Nid yw cadw'r anifail yn yr awyr agored, ei olchi bob wythnos na chadw'r tŷ yn lân iawn yn helpu.

Gallwch leihau'r nifer o widdon llwch tŷ trwy lanhau'r tŷ yn rheolaidd, a thrwy newid hen fatresi.Gadewch ddigon o aer i mewn - bydd hyn yn helpu i leihau'r lleithder y mae gwiddon yn ei hoffi.

Yn ôl ymchwil a wnaed, does dim manteision i gamau y mae rhai pobl yn eu hargymell ar gyfer lleihau alergenau llwch tŷ. Gall y camau hyn fod yn ddrud hefyd. Yn eu plith y mae defnyddio sugnwyr llwch 'arbennig' a gorchuddion ar gyfer matresi, duvets a chlustogau.

[TOP]

Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Ebrill ’07

Related Links