|

Ysmugu a'ch ysgyfaint (smoking and your lungs)

Mwg sigaréts

Mae mwg sigaréts yn cynnwys llawer o sylweddau all niweidio'r ysgyfaint. Mae dwy ran i'r mwg: darnau bychan solet sy'n cynnwys tar, a'r nwy, sy'n cynnwys carbon monocsid a nitrogen ocsid. Mae ysmygu'n golygu bod y sylweddau gwenwynig hyn yn mynd yn syth i'ch ysgyfaint. Mae'r hidlyddion yn y rhan fwyaf o sigaréts yn fuddiol i raddau, ond maen nhw'n dal i adael i'r rhan fwyaf o'r cemegau niweidiol fynd i mewn i'ch ysgyfaint.

Peryglon ysmygu

Mae'r tar mewn mwg sigaréts yn niweidio celloedd yn llwybrau anadlu eich ysgyfaint. Yn y pen draw gall y niwed hwn gynhyrchu celloedd sy'n tyfu allan o bob rheolaeth- gan arwain at ganser yr ysgyfaint neu'r corn gwddf (laryncs).

Oherwydd hyn, bydd eich corff yn anfon celloedd amddiffyn i'ch ysgyfaint i geisio eu gwarchod, ond mae mwg sigaréts yn eu dinistrio. Yna bydd y celloedd marw'n rhyddhau sylweddau sy'n niweidio strwythur yr ysgyfaint. Bydd hyn yn arwain at Glefyd yr Ysgyfaint Rhwystrol Cronig (Chronic Obstructive Pulmonary Disease - COPD).

Mae mwg sigaréts hefyd yn rhyddhau sylweddau i mewn i'ch llif gwaed sy'n niweidio organau eraill. Gall hyn effeithio ar y rhydwelïau yn eich calon, eich ymennydd a mannau eraill. Gall hyn arwain at angina, trawiadau ar y galon, strociau a chylchrediad gwael. Mae hefyd yn cynyddu eich siawns o ddatblygu canser mewn mannau eraill yn y corff, fel y llwnc neu'r bledren.

Ysmygu goddefol

Bydd ysmygwyr goddefol yn anadlu mwg sy'n cael ei anadlu i mewn ac allan gan ysmygwyr. Maen nhw hefyd yn mewnanadlu'r mwg o flaenau sigaréts wrth iddyn nhw losgi. Mae'r mwg hwn yn cynnwys mwy o'r cemegau niweidiol na'r mwg sydd wedi mynd trwy hidlydd y sigarét.

Mae ysmygu goddefol yn aml yn poenydio rhai sydd ddim yn ysmygu, yn arbennig os oes ganddynt asthma neu broblemau eraill â'r ysgyfaint.

Mae plant sy'n tyfu i fyny gyda rhieni sy'n ysmygu yn fwy tebygol o ddatblygu problemau â'u hysgyfaint. Mae'r perygl o farwolaeth sydyn mewn plant ifanc yn cynyddu hefyd pan fo'u rhieni'n ysmygu. Mae cynnydd bychan yn y perygl o ganser yr ysgyfaint mewn rhai sydd ddim yn ysmygu ac sydd mewn cysylltiad agos ag ysmygwyr dros gyfnod hir.

Ysmygu ym Mhrydain

Ym Mawrth 2006 cyflwynwyd gwaharddiad ar ysmygu ym mhob man cyhoeddus a mannau gwaith yn yr Alban.

Dechreuodd gwaharddiad tebyg yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn Ebrill 2007 a dechreuodd yn Lloegr ar Orffennaf 1 2007.

Er gwaethaf yr holl broblemau sy'n deillio o ysmygu sigaréts, mae llawer o bobl yn dal ati i ysmygu - tua 25 y cant o bob oedolyn yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhan fwyaf o ysmygwyr yn dechrau yn eu harddegau. Bydd y rhan fwyaf o oedolion sy'n ysmygu eisiau rhoi'r gorau iddi ar ryw adeg neu'i gilydd.

Mae'n dod yn llai derbyniol yn gymdeithasol i ysmygu ac mae'r nifer o oedolion sy'n ysmygu yn lleihau'n raddol. Yn anffodus mae nifer y merched ifanc sy'n dechrau ysmygu yn cynyddu. Mae plant sydd wedi eu magu mewn cartrefi lle nad oes neb yn ysmygu yn llawer llai tebygol o ddechrau ysmygu.

Manteision rhoi'r gorau iddi

Cyntaf yn y byd y rhowch y gorau iddi, y lleiaf tebygol yw hi y bydd eich ysgyfaint a'ch organau eraill yn cael eu niweidio. Gall symptomau fel pesychu wella ymhen dyddiau neu wythnosau. Os yw COPD wedi dechrau datblygu, bydd rhoi'r gorau i ysmygu'n atal mwy o niwed. Bydd parhau i ysmygu'n golygu eich bod yn mynd yn gynyddol fyr eich gwynt. Mae hyn yn cyfyngu ar eich gweithgareddau ac yn cynyddu'r peryglon o fethiant yn yr ysgyfaint a'r galon. Nid yw byth yn rhy hwyr i feddwl am roi'r gorau iddi.

Mae'r perygl o gael canser yr ysgyfaint yn cynyddu po fwyaf y gwnewch chi ysmygu, a pho hiraf y byddwch yn ysmygu. Unwaith y byddwch yn rhoi'r gorau iddi, mae'r perygl o gael canser yr ysgyfaint yn dechrau lleihau. Ar ôl deg mlynedd heb ysmygu, mae'r perygl yn cael ei haneru o'i gymharu â'r perygl pe baech chi wedi dal ati i ysmygu.

Tra bo rhai pobl yn mynd trwy fywyd heb gael eu heffeithio gan ysmygu, bydd miliynau yn cael eu heffeithio. Mae gormod o bobl yn meddwl ' Wnaiff o byth ddigwydd i mi' – hyd nes y maen nhw'n datblygu canser neu'n cael eu trawiad cyntaf ar y galon.

Rhoi'r gorau i ysmygu

Gall rhoi'r gorau i ysmygu fod yn anodd iawn, ond bydd llawer o ysmygwyr yn ei chael yn haws na'r disgwyl. Mae mwy a mwy o bobl yn llwyddo i roi'r gorau i'r arfer. Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr yn gaeth i'r nicotin mewn sigaréts a gallant brofi symptomau diddyfnu fel blys, tymer flin, iselder a methu â chanolbwyntio.

Mae modd lleddfu symptomau diddyfnu difrifol drwy ddefnyddio therapïau disodli nicotin (nicotine replacement therapies - NRT), fel patshys nicotin, gwm cnoi, losennau, chwistrelli, mewnanadlwyr neu dabledi. Gall y rhain ddarparu nicotin 'glân' ac maen nhw'n llawer mwy diogel nag ysmygu sigaréts. Dylech eu defnyddio am tua chwe wythnos, yna rhoi'r gorau iddynt, a gallwch eu cael gan eich fferyllydd neu ar bresgripsiwn gan eich Meddyg Teulu. Mae treialon clinigol wedi dangos bod defnyddio cynnyrch nicotin yn dyblu eich siawns o lwyddo bron iawn os ydych chi eisiau rhoi'r gorau i ysmygu.

Mae cyffuriau newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd sy'n helpu i leddfu'r symptomau diddyfnu sy'n gysylltiedig â rhoi'r gorau i ysmygu. Mae modd cymryd y tabledi hyn gyda thriniaeth disodli nicotin a, fel NRT, gallant ddyblu graddfa llwyddiant ysmygwyr sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi. Dim ond ar bresgripsiwn gan eich Meddyg Teulu y mae'r rhain ar gael, a gall ef/hi eich cynghori i'w defnyddio ochr yn ochr â gwasanaethau stopio ysmygu lleol. Gall eich Meddyg Teulu eich cynghori ynghylch sgil effeithiau posibl.

Fel arfer mae'n syniad da gosod dyddiad i roi'r gorau iddi, yn hytrach na rhoi'r gorau i ysmygu'n raddol. Dywedwch wrth y bobl o'ch cwmpas eich bod am roi'r gorau iddi, a cheisiwch gael rhai eraill gartref neu yn y gwaith i roi'r gorau iddi gyda chi. Bydd y rhwydwaith gynnal hwn yn ei gwneud yn haws pan fo temtasiwn yn taro!

Un peth sy'n pryderu ysmygwyr yw ennill pwysau; mae ysmygu'n atal eich archwaeth bwyd, felly gallwch osgoi ennill pwysau os ydych chi'n ymwybodol o hyn, os wnewch chi ymarfer a bwyta'n iach.

Ni fydd pobl sy'n newid o sigaréts i bibellau neu sigarau yn ennill fawr ddim o ran iechyd gwell. Unwaith eto, mae'n well rhoi'r gorau i ysmygu'n gyfan gwbl.

Mae nifer o feddygon, ysbytai ac awdurdodau iechyd lleol yn cynnal grwpiau cynnal a chyrsiau er mwyn eich helpu. Gall eich Meddyg Teulu ddweud wrthych chi beth sydd ar gael yn lleol. Er gwaethaf yr anawsterau, mae mwy o ysmygwyr yn llwyddo i roi'r gorau iddi bob dydd. Mae modd ei wneud a byddwch yn canfod manteision pendant iawn o ran eich iechyd ac ansawdd eich bywyd.

Adolygwyd yn feddygol ddiwethaf: Medi '07